Tan, Angel Jia Yiuen, Tang, Bryan Wen Xiao, Atherton, Gray, Cross, Liam and Williams, Bethan Mair (2025). Defnyddio dull adeiladu rhuglder i gynyddu gwybodaeth a rhuglder arwyddo gydag athrawon cyn ysgol:Astudiaeth beilot. Cylchgrawn Addysg Cymru / Wales Journal of Education , pp. 30-54.
Abstract
Gwyddys fod arwyddo allweddeiriau, strategaeth gyfathrebu atgyfnerthol, yn hyrwyddo caffael iaith ymysg plant ifanc, ond mae staff mewn lleoliadau addysgol yn aml yn derbyn hyfforddiant annigonol, gan arwain at gyfraddau cofio a defnyddio isel. Mae’r astudiaeth beilot hon yn archwilio dichonoldeb ac effaith ymyriad sy’n seiliedig ar Addysgu Manwl a gynlluniwyd i wella hyfedredd a rhuglder athrawon cyn ysgol wrth arwyddo Makaton. Bu 11 o athrawon o ddarpariaeth cyn ysgol brif ffrwd yng Ngogledd Cymru, heb fawr ddim hyfforddiant blaenorol, yn cymryd rhan mewn ymyriad chwe wythnos yn cynnwys hyfforddiant rhuglder gyda 238 o arwyddion Makaton. Roedd asesiadau cyn ac ar ôl yr ymyriad yn mesur y wybodaeth a gaffaelwyd, a phrofion ôl-ymyriad yn gwerthuso rhuglder trwy gofio, dygnwch a chymhwyso. Dangosodd y canlyniadau welliannau sylweddol yn hyfedredd arwyddo’r cyfranogwyr, gyda lefelau uchel o gofio a chymhwyso sgiliau hyd yn oed ar ôl cyfnodau heb ymarfer. Mae’r canfyddiadau hyn yn awgrymu y gall Addysgu Manwl gynnig dull effeithiol ac amser-effeithlon o wella rhuglder iaith arwyddion mewn lleoliadau addysgol. Trafodir goblygiadau ar gyfer hyfforddiant athrawon a chyfeiriad ymchwil yn y dyfodol.
| Publication DOI: | https://doi.org/10.16922/wje.27.2.3cym |
|---|---|
| Divisions: | College of Health & Life Sciences > School of Psychology College of Health & Life Sciences Aston University (General) |
| Additional Information: | Published Open Access, CC BY NC ND |
| Uncontrolled Keywords: | Caffael iaith,Strategaeth gyfathrebu atgyfnerthol,Hyfforddiant arwyddo,Hyfforddiant athrawon,Addysgu Manwl,Rhuglder ymddygiadol |
| Last Modified: | 04 Feb 2026 10:44 |
| Date Deposited: | 03 Feb 2026 13:58 |
| Full Text Link: | |
| Related URLs: |
https://journal ... article/id/811/
(Publisher URL) |
PURE Output Type: | Article |
| Published Date: | 2025-11-21 |
| Accepted Date: | 2025-05-02 |
| Authors: |
Tan, Angel Jia Yiuen
(
0000-0002-6947-3063)
Tang, Bryan Wen Xiao Atherton, Gray Cross, Liam Williams, Bethan Mair |
0000-0002-6947-3063